Pecynnau Cymorth i Gyflogwyr
Rydym yn datblygu pecynnau cymorth defnyddiol sy'n canolbwyntio ar feysydd penodol i helpu sefydliadau i reoli gwahanol agweddau ar waith a chefnogi gofalwyr sy'n gweithio yn llwyddiannus.
Engaging SME businesses – A toolkit for EfC Umbrella members
Os ydych yn aelod ymbarél EfC, byddwch yn bwriadu ymgysylltu â'ch busnesau bach a chanolig lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r cymorth a'r adnoddau sydd ar gael iddynt trwy'r model aelodaeth rhad ac am ddim hwn.
Pecyn Cymorth Arolwg Gweithwyr
Mae’r arolwg cyflogeion hwn ar gymorth yn y gweithle i ofalwyr wedi’i gynllunio fel templed fel y gallwch, os dymunwch, ei ddiwygio i weddu i’ch sefydliad yn well.
Developing a Carers’ Policy Toolkit
Mae mesurau syml y gallwch eu cymryd i helpu eich staff i gydbwyso gwaith a gofalu yn effeithiol a all olygu’r gwahaniaeth rhwng cadw staff medrus a phrofiadol a’u colli wrth iddynt roi’r gorau i waith i ofalu. Mae cael Polisi Gofalwyr clir a hygyrch yn fan cychwyn da.
Pecyn Cymorth - Ymgysylltu Gofalwyr yn Eich Gweithlu
Darllenwch ein pecyn cymorth cyflogwyr byr gyda chyngor ymarferol ac awgrymiadau da i helpu cyflogwyr, rheolwyr llinell a staff AD i gynnwys gofalwyr yn eu gweithlu.
Pecyn Cymorth - Dechrau’r Sgwrs
Yn aml mae’n anodd i unigolion yn y gweithle siarad am eu cyfrifoldebau gofalu a’u hanghenion cymorth gan y gall y rhain fod yn faterion anodd eu codi. Gall rheolwyr ei chael yn anodd cychwyn neu ymateb i sgwrs am ofalu hefyd.
Pecyn Cymorth – Rheoli Profedigaeth
Darllenwch ein pecyn cymorth cyflogwyr byr gyda chyngor ymarferol, awgrymiadau da ac enghreifftiau o arfer da i helpu cyflogwyr, rheolwyr llinell a staff AD i gefnogi gofalwyr trwy brofedigaeth.
Starting and Sustaining a Carers’ Network Toolkit
Yn aml mae’n anodd nodi ac ymgysylltu â gofalwyr yn eich gweithlu gan nad yw pobl yn gweld eu hunain yn ofalwyr; maent yn ferched, yn wŷr, yn bartneriaid yn gwneud yr hyn y mae teuluoedd yn ei wneud - gofalu am y bobl y maent yn eu caru. Mae rhwydwaith gofalwyr yn aml yn ffordd dda o wneud hyn, boed yn rhithwir neu wyneb yn wyneb.
Pecyn Cymorth Dementia
Yn dilyn ein harolygon dementia a'n hadroddiad dilynol Cefnogi gweithwyr sy'n gofalu am rywun â dementia, rydym wedi cynhyrchu pecyn cymorth dementia byr i helpu cyflogwyr i gefnogi eu staff sy'n jyglo gwaith â gofalu am rywun â dementia.
Cael y Sgwrs Gofal
Gall fod yn anodd siarad â’ch teulu neu ffrindiau am eu gofal ac mae llawer ohonom yn osgoi cael sgwrs am ofal. Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un a allai fod angen y sgwrs gofal.
Pecynnau Cymorth Cynllunio Wrth Gefn yn y Gweithle
Rydym wedi datblygu dau becyn cymorth sy'n canolbwyntio ar ymgorffori gofalu mewn cynlluniau wrth gefn yn y gweithle.
Pecynnau Cymorth Rheoli Newid
Rydym wedi creu dau becyn cymorth ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr sy'n canolbwyntio ar reoli newid
Pecyn Cymorth Pasbort Gofalwyr
Rydym wedi datblygu pecyn cymorth Pasbort Gofalwr i helpu eich sefydliad i gyflwyno Pasbort, dysgu am heriau ac atebion posibl o ran gweithredu a deall sut i hyrwyddo eich cynllun Pasbort.
Pecyn Cymorth Hyrwyddwr Gofalwyr
Rydym wedi datblygu pecyn cymorth Hyrwyddwyr Gofalwyr yn seiliedig ar fewnwelediadau ein hadroddiad ymchwil EfC 2022 am rôl hyrwyddwyr gofalwyr yn y gweithle.