Datblygu polisïau
Yn aml, cyflawnir y canlyniadau gorau trwy gynnwys gofalwyr yn eich polisïau generig a hefyd cael polisi gofalwyr penodol neu ddogfen ganllaw sy'n cyfeirio at bolisïau a chymorth perthnasol.
Mae rhai sefydliadau yn ei ystyried yn ddefnyddiol cael polisi penodol ar gyfer gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, ond efallai y bydd eraill eisiau cynnwys gofalwyr yn eu polisïau Adnoddau Dynol presennol.
Yn aml, cyflawnir y canlyniadau gorau trwy gynnwys gofalwyr yn eich polisïau generig a hefyd cael polisi gofalwyr penodol neu ddogfen ganllaw sy'n cyfeirio at bolisïau a chymorth perthnasol.
Cynnwys gofalwyr mewn polisïau AD/cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Fel man cychwyn, dylech gynnwys gofalwyr yn eich polisïau generig / cydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd hyn yn tynnu sylw at y ffaith eich bod chi'n cydnabod gofalwyr a'u hanghenion posibl.
Mae pobl sy'n gofalu am rywun sy'n oedrannus neu'n anabl bellach yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu uniongyrchol neu aflonyddu oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae hyn oherwydd eu bod yn cael eu cyfrif fel bod yn 'gysylltiedig' â rhywun sydd wedi'i ddiogelu gan y gyfraith oherwydd eu hoedran neu anabledd. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn disodli’r cyfreithiau gwrthwahaniaethu presennol gydag un Ddeddf sengl, sydd yn symleiddio’r gyfraith ac yn dileu anghysonderau, ac ar ben hynny, yn ei chryfhau mewn ffyrdd allweddol i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.
Felly, mae'n rhaid i gyflogwyr yn y DU sicrhau na fyddant yn gwahaniaethu yn erbyn y tair miliwn o ofalwyr yn y gweithlu trwy eu trin yn wahanol i weithwyr eraill, neu eu haflonyddu. Er enghraifft trwy:
- beidio â chynnig swydd i rywun oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu
- beidio â chynnig dyrchafiad i weithiwr oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu
Cyhoeddodd Swyddfa Cydraddoldebau'r Llywodraeth, mewn partneriaeth â Siambrau Masnach Prydain, Cyngor ar Bopeth, ACAS a'r Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gyfres o ganllawiau cryno a "dechrau cyflym" ar y newidiadau allweddol yn y gyfraith i gefnogi gweithredu’r Ddeddf.
Er mwyn helpu cyflogwyr a rheolwyr i fynd i'r afael â'r gyfraith ar gydraddoldeb, mae ACAS wedi cyhoeddi tri chanllaw am ddim sy'n cynnig ystod eang o gyngor ymarferol yn y gweithle: Equality and discrimination: understand the basics; Prevent discrimination: support equality; and Discrimination: what to do if it happens.
Polisi gofalwyr
Mae rhai sefydliadau'n ei chael hi'n ddefnyddiol cael polisi penodol ar gyfer gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae hyn yn gallu cefnogi rheolwyr wrth recriwtio gofalwyr, yn ogystal â darparu manylion ynghylch cefnogi gweithwyr yn y broses o gydbwyso gwaith a gofal. Dylai'r polisi hwn gynnwys:
- cyfeiriad at ddiffiniad y sefydliad o ofalwr a beth mae hyn yn ei olygu
- y darpariaethau cefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr
- yr opsiynau cefnogaeth sydd ar gael i'w rheolwyr llinell.
Bydd llawer o'r opsiynau cefnogaeth yn dibynnu ar anghenion y gweithiwr, ac mae'n fuddiol ymgynghori â'ch gweithwyr pan fyddwch chi'n datblygu'r polisi hwn ynghylch pa ddarpariaeth fydd fwyaf buddiol iddyn nhw. Dyma rywfaint o opsiynau i'w cynnwys:
- Absenoldeb argyfwng (gyda thâl a heb dâl)
- Absenoldeb gofalwyr (gyda thâl a heb dâl)
Yn aml, bydd gan gyflogwyr mawr bolisi gofalwyr penodol, ond gall sefydliadau llai gynnwys gofalwyr yn eu polisïau generig. Y peth pwysig yw bod anghenion gofalwyr yn wahanol, a bod angen cefnogaeth benodol arnynt.
"Mae gofalwyr dim ond yn defnyddio'r polisi pan maen nhw wir ei angen, ac yna, maen nhw ond yn cymryd ychydig o ddiwrnodau i ffwrdd bob blwyddyn. A phan fyddant yn y gwaith, maen nhw'n frwdfrydig, yn ffyddlon a byth yn hwyr."
Rheolwr ac aelod o’r rhwydwaith gofalwyr
Diffiniad enghreifftiol ar gyfer gofalwyr, a pholisi gofalwyr enghreifftiol