Carers networks - tips from EfC members
Awgrymiadau gan ofalwyr CiO sydd ynghlwm â’r rhwydweithiau gofalwyr
Awgrymiadau gan ofalwyr CiO sydd ynghlwm â’r rhwydweithiau gofalwyr:
1 Chwalu’r chwedlau a newid canfyddiadau.
Meddyliwch am sut allwch chi chwalu chwedlau am ofalwyr ac ar ben hynny, newid canfyddiadau, yn enwedig ymhlith uwch-reolwyr. Mae uwch fodelau rôl yn hanfodol fel bod uwch-reolwyr yn gallu gweld eu hunain yn cael eu 'hadlewyrchu' yn y mater. Mae angen ystyried rhwydweithiau hefyd, fel bod yn berthnasol i uwch-reolwyr yn ogystal â staff ar lefelau eraill ac fel adnodd defnyddiol, nid fel problem arall. Er enghraifft, mae rheolwyr sy’n gweithio yn sefydliadau sector preifat a chyhoeddus CiO wedi cyfeirio staff at rwydwaith neu grŵp cefnogi gofalwyr eu sefydliad; mae’r gefnogaeth ymarferol y mae rhwydweithiau fel hyn yn eu rhoi i ofalwyr yn gallu helpu i liniaru'r pwysau ar reolwyr llinell prysur hefyd.
2 Mae rhwydweithiau yn gallu cyrraedd y rhannau nad ydy cefnogaeth arall yn gallu eu cyrraedd.
Mae rhwydweithiau, yn enwedig cefnogaeth gan gyfoedion ymysg gofalwyr, yn gallu darparu'r help anffurfiol sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ofalwyr. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ymarferol gan bobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg, a chymorth emosiynol a allai helpu gofalwyr i deimlo'n llai ynysig ac i reoli straen. Er y bydd her bob amser o ran ceisio bodloni disgwyliadau rhai pobl ynghylch pa fath o rwydweithiau cymorth y gallant eu darparu, maen nhw’n gallu chwarae rhan werthfawr o ran cyfeirio gweithwyr at ffynonellau ymarferol o gefnogaeth, boed hyn yn gefnogaeth gan gyfoedion, polisïau a darpariaethau yn y gweithle, neu fynediad at wasanaethau allanol.
3 Mae rhwydweithiau yn gallu chwarae rôl ymarferol wrth gyfathrebu cefnogaeth.
Drwy atgyfnerthu negeseuon allweddol am ba gefnogaeth sydd ar gael yn y gweithle a sut i gael mynediad ato, mae rhwydweithiau yn gallu helpu i arbed amser i reolwyr llinell, yn ogystal â chyfleu gwybodaeth i weithwyr. Mae'n rhaid i bolisïau fod yn hygyrch h.y. nid yw'n dda cael polisïau da i ofalwyr ar bapur os nad yw pobl yn teimlo'n gyfforddus yn eu defnyddio. Felly, gall rhwydweithiau chwarae rôl ddefnyddiol wrth weithio gyda thimau AD i gyfathrebu'r neges ei bod yn iawn bod yn ofalwr a bod pobl yn derbyn y gefnogaeth sydd ar gael yn llwyddiannus. Gallant helpu hefyd, i feithrin perthynas 'ar sail ffydd' rhwng rheolwr llinell a gweithiwr a thrwy hynny, wella cymhelliant a theyrngarwch. Mae gofalwyr wedi adrodd, hyd yn oed os na fyddant yn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael, fel mynediad at rwydweithiau, bod dim ond gwybod bod help ar gael os bydd ei angen wedi gwneud iddynt deimlo fel bod ganddynt lawer fwy o gefnogaeth yn y gwaith, a gwneud iddynt deimlo’n llawer mwy brwdfrydig.
4 Mae rhwydweithiau felly, yn gallu bod yn fantais i reolwyr hefyd.
Dylai unrhyw gyfathrebu am rwydweithiau dynnu sylw rheolwyr hefyd at y gefnogaeth ymarferol y gallant eu darparu i ofalwyr ymhlith eu staff. Dylid ystyried rhwydweithiau fel adnodd defnyddiol y gall rheolwyr llinell gyfeirio gofalwyr yn eu timau atynt. Gallai cyfathrebu gyda rheolwyr eu cyfeirio hefyd, at unrhyw gymorth ymarferol a allai fod ar gael i reolwyr yn y gweithle, fel awgrymiadau ar ofalwyr cynorthwyol, y pethau i’w gwneud a pheidio eu gwneud. (Gellir cael canllawiau ymarferol ac awgrymiadau ar gyfer rheolwyr gan CiO, gan gynnwys ar y wefan).
5 Mae gofalwyr angen cefnogaeth ar bob lefel yn y sefydliad
Er bod pryderon yn cael eu mynegi weithiau am rwydweithiau gofalwyr sy'n cael eu defnyddio'n bennaf gan staff cymorth, yn aml, y staff hyn sydd angen cymorth fwyaf. Maen nhw’n llai tebygol o gael ffynonellau cefnogaeth cydweithwyr sydd yn cael eu talu’n fwy, a allai fod mewn gwell sefyllfa i dalu am ofal a chymorth ychwanegol, neu fod â phartner sy'n gallu fforddio rhoi'r gorau i weithio i helpu gyda gofal. Mae uwch-reolwyr yn fwy tebygol hefyd, o gael mwy o annibyniaeth yn nhermau eu dyddiaduron a gweithio'n hyblyg ac ati, tra bod llai o ddewis yn aml gan weithwyr ar lefelau is. Ond yn aml, trwy gefnogaeth gan gyfoedion, mae gofalwyr yn cael y gefnogaeth a’r cyngor ymarferol gorau, ac mae hyn yn berthnasol ar draws pob lefel yn y sefydliad.
6 Pobl sydd ddim yn hoffi ‘ymuno’.
Nid yw pawb yn hoffi 'ymuno' ac felly, efallai na wnawn nhw fyth gofrestru ar gyfer rhwydwaith neu fynychu cyfarfodydd, boed wyneb yn wyneb neu'n rhithwir. Felly, mae angen i rwydweithiau ystyried sut maen nhw'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr pan fyddant eu hangen (a sut). Dylent gael eu hysbysebu i'r holl staff hefyd, fel bod gofalwyr y dyfodol a chyn-ofalwyr yn ymwybodol ohonynt. Mae rhai cyn-ofalwyr yn chwarae rhan werthfawr mewn mentora a chynorthwyo gofalwyr.
7 Iaith.
Er bod diffiniadau wedi’u cyhoeddi o ystyr gofalwyr (gan gynnwys, er enghraifft, gan CiO a Carers UK), mae angen i gyflogwyr a rhwydweithiau barhau i ddiffinio ystyr 'gofalwyr' iddyn nhw, gan nad yw llawer o bobl yn ystyried eu hunain fel gofalwyr. Mae angen i gyhoeddusrwydd a gwybodaeth godi cwestiynau fel ‘ydych chi’n edrych ar ôl’ perthynas, partner neu ffrind ac ati, yn hytrach na gofyn 'ydych chi'n ofalwr?' Mae angen i fudiadau a rhwydweithiau barhau i groesgyfeirio pob polisi sy'n berthnasol i ofalwyr.
8 Symud o gwmpas a dilyniant gyrfaol.
Drwy weithio gyda'u rhwydweithiau gofalwyr, mae rhai cyflogwyr fel BT wedi ceisio 'normaleiddio' gofal yn y gweithle, gan gynnwys cynorthwyo gofalwyr i symud o gwmpas a sicrhau dilyniant gyrfaol. Mae cyflwyno Pasbort Gofalwyr BT wedi cael effaith enfawr, ac wedi galluogi gofalwyr i symud o gwmpas y sefydliad gyda'r un telerau ac amodau. Mae wedi helpu hefyd, i leihau’r effaith o newid rheolwyr llinell, sydd yn gallu aflonyddu gofalwyr. Roedd enghraifft arall o arfer da a adroddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn codi o broblemau i ofalwyr yn ymwneud â dilyniant gyrfaol, a nodwyd yn eu harolwg staff blynyddol. O ganlyniad, drwy weithio gyda'r rhwydwaith gofalwyr, datblygwyd cwrs dibreswyl 3 diwrnod yn edrych ar ble nesaf i ofalwyr. Sefydlwyd cynllun mentora ar gyfer gofalwyr hefyd, yn darparu cefnogaeth dros y ffôn gan ofalwr, neu gyn-ofalwr, ar y radd uchod.
9 Mae rhwydweithiau rhithwir yn gallu darparu cefnogaeth costeffeithiol.
Yn ystod y cyfnod economaidd tynn presennol, mae rhwydweithiau hyblyg sydd yn gallu darparu cefnogaeth i ofalwyr yn rhithwir (yn ogystal â wyneb yn wyneb), yn gallu cyflwyno manteision gwirioneddol. Yn hytrach nac edrych ar rwydweithiau gweithwyr fel cost, dylid ystyried y math hwn o rwydwaith fel ffordd rad, sy’n arbed amser, o ddarparu cefnogaeth a allai fod o fudd i ofalwyr a rheolwyr. Mae rhai arolygon gweithwyr wedi datgelu hefyd, bod yn well gan ofalwyr gyswllt ar-lein, gan fod hyn yn gallu bod yn fwy anhysbys, hyblyg a chyfrinachol (er bod cyswllt wyneb yn wyneb yn cael ei werthfawrogi'n fawr hefyd ar gyfer rhai mathau o gefnogaeth). Mae rhwydweithiau rhithwir yn gallu bod o gymorth hefyd i weithwyr sy'n gofalu o bell, ac i’r rheiny sy'n gweithio o bell hefyd.
10 Pobl mewn gwahanol rolau gweithredol.
Ni fydd rhai gofalwyr yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu gyfarfodydd rhithwir oherwydd natur eu rolau. Er enghraifft, mae gan ymladdwyr tân, gyrwyr trên a rhai swyddogion heddlu batrymau sifft cymhleth a / neu efallai nad oes ganddynt fynediad i gyfrifiadur yn eu gweithle. Felly, yn y mathau hyn o weithleoedd, mae angen i rwydweithiau hysbysebu eu hunain a'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael trwy amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys taflenni, posteri, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a ffonau symudol. Mae CiO wedi peilota model rhwydwaith gofalwyr ac adnodd gwefan gyda Brigâd Dân Llundain, sef LFB Carers Connect, y gall gofalwyr gael mynediad iddynt “unrhyw bryd, yn unrhyw le” - yn y gwaith, adref neu rywle arall, drwy gyfrifiadur, tabled neu ffôn, ar sail barhaus neu "untro". (Gellir cael mwy o wybodaeth am y model hwn, a allai fod o ddiddordeb i gyflogwyr eraill, gan CiO.)
11 ‘Galwadau gwybodaeth’.
Gallai'r rhain fod yn ffordd ardderchog o gyrraedd nifer fawr o bobl yn effeithiol, yn arbennig mewn sefydliadau sydd yn brysur iawn. Denodd galwad dementia cyntaf BT 450 o bobl i gofrestru. Oherwydd natur y pwnc hwn, denodd amrywiaeth ehangach o bobl, gan gynnwys rhai na fyddai o reidrwydd wedi adnabod eu hunain fel gofalwr. Cafodd ei gadeirio gan aelod o'r rhwydwaith, ac roedd yn cynnwys arbenigwr ar ddementia o UCL. Cafodd yr wybodaeth o'r alwad ei storio ar fewnrwyd y staff a'i hanfon at bawb oedd wedi cofrestru. Er bod BT yn amlwg yn ddigon da i wneud hyn oherwydd natur ei fusnes, gellid addasu'r syniad hwn gan sefydliadau eraill. Mae rhai, er enghraifft, wedi rhedeg digwyddiadau codi ymwybyddiaeth i staff ar ddementia a materion eraill sy'n ymwneud ag iechyd.
12 Ymyrraeth gynnar a’r ‘ffenest chwe wythnos’
Mae rhai sefydliadau wedi nodi cyfnod pwysig o chwe wythnos pan fydd rhywun sydd newydd ddod yn ofalwr - neu sydd newydd sylweddoli eu bod yn ofalwr - angen cael mynediad at help a gwybodaeth ar ystod eang o bethau. Dyma'r her go iawn, pan mae pobl fwyaf tebygol o adael y gweithlu i ofalu, neu’n teimlo bod rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd naill ai fel gwyliau blynyddol neu fel absenoldeb oherwydd salwch. Mae gofalwyr wedi disgrifio'r cam cychwynnol hwn fel cam brawychus iawn, Mae mynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn golygu uwchsgilio rhwydweithiau gofalwyr fel eu bod yn meddu ar y gallu i gefnogi gofalwyr (e.e. mae rhai yn rhoi cefnogaeth drwy rybuddio aelodau eraill drwy e-bost) ac addysgu rheolwyr llinell i fod yn ymwybodol y gallai'r sefyllfaoedd hyn godi ar fyr rybudd (h.y. y gallai unrhyw un yn eu tîm ddod yn ofalwr dros nos).