Diffiniad enghreifftiol ar gyfer gofalwyr
Mae gofalu yn wahanol i gyfrifoldebau gofal plant prif ffrwd ac mae angen ymateb ar wahân gan gyflogwyr a rheolwyr.
Pwy ydy gofalwyr?
Mae Carers UK yn diffinio gofalwyr fel y rheiny ohonom sy'n darparu gofal di-dâl drwy ofalu am rywun sy'n hŷn, anabl neu'n ddifrifol wael. Mae'r disgrifiad 'gofalwr' yn ddefnyddiol wrth adnabod pobl, gan gynnwys gweithwyr, a allai fod angen cefnogaeth oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Ond nid yw llawer o bobl sy'n 'ofalwyr' yn gweld eu hunain fel hynny, ac mae'n debyg y buasent yn dweud "Dwi ond yn bod yn ŵr, gwraig, tad, mab, merch, ffrind neu gymydog da"
Mae gofalwyr yn gallu helpu gyda phethau personol fel gwisgo rhywun, eu troi yn eu cwsg, eu helpu i fynd i’r ystafell ymolchi, neu eu helpu i symud o gwmpas neu i gymryd eu meddyginiaeth. Efallai y byddant yn helpu hefyd, gyda phethau fel siopa, golchi dillad, glanhau, coginio, llenwi ffurflenni neu reoli arian.
Mae gofalu yn wahanol i gyfrifoldebau gofal plant prif ffrwd, ac yn sgîl hynny, mae angen i gyflogwyr a rheolwyr ymateb yn wahanol i hyn. Gall gofalu ddigwydd dros nos neu ddigwydd yn araf heb i chi sylweddoli, mae’n gallu bod yn anodd ei gynllunio ac ymdopi’n emosiynol ag ef, ac mae ganddo 'gerrig milltir' gwahanol o’i gymharu â gofal plant.
Er enghraifft, mae geni plentyn yn achos i ddathlu, ond nid dyma’r achos pan mae rhywun yn dechrau gorfod gofalu am riant sydd â salwch fel Clefyd Alzheimer's; mae plentyn sy'n symud o addysg gynradd i’r uwchradd yn gam positif ymlaen, yn wahanol i oedolyn sy'n symud i ofal preswyl neu nyrsio.
Diffiniad enghreifftiol ar gyfer gofalwyr
Fel sefydliad, efallai y byddwch yn ei ystyried yn ddefnyddiol cael eich diffiniad eich hun ar gyfer gofalwyr. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi'n bwriadu datblygu polisi gofalwyr. Mae’n gallu helpu hefyd, wrth wahaniaethu rhwng anghenion y rheiny sydd â chyfrifoldebau gofalu a'r rheiny sydd â materion gofal plant. Mae Cyflogwyr i Ofalwyr wedi datblygu'r diffiniad canlynol fel enghraifft o arfer gorau. Mae’n cael ei ddefnyddio gan lawer o aelod sefydliadau'r grŵp.
Diffiniad CiO:
Gofalwyr ydy gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol sy'n cael effaith mawr ar eu bywydau gwaith. Mae'r gweithwyr hyn yn gyfrifol am ddarparu gofal a chymorth i berthnasau neu ffrindiau sy'n hŷn, anabl neu'n ddifrifol wael, ac sydd ddim yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain.
Gellir defnyddio'r diffiniad hwn yn uniongyrchol, neu ei addasu i ateb anghenion eich sefydliad.