Polisïau enghreifftiol
Yn yr adran hon gallwch ddod o hyd i bolisïau enghreifftiol i'ch arwain trwy'r broses o ddatblygu eich polisïau sefydliadol eich hun.
Yn yr adran hon, gallwch weld polisïau enghreifftiol i'ch tywys chi drwy'r broses o ddatblygu eich polisïau sefydliadol eich hun.
Gallwch ddefnyddio'r polisïau hyn fel ag y maent, eu haddasu i gyd-fynd â'ch sefydliad eich hun, neu eu defnyddio i’w cymharu yn erbyn eich polisïau presennol.
Lawrlwytho:
Enghraifft gryno o bolisi gofalwyr
Enghraifft fanwl o bolisi gofalwyr
Enghraifft: Sainsbury’s
Mae Sainsbury’s yn amcangyfrif bod tua 20,000 o'u cydweithwyr yn darparu gofal i aelod o deulu, partner, ffrind neu gymydog sy'n sâl neu'n anabl, ar unrhyw un adeg. Mae'r sefydliad wedi ymrwymo i gefnogi'r cydweithwyr hyn fel rhan o gydnabyddiaeth ehangach o'r mater cynyddol o gydbwyso gwaith a gofalu yng nghymdeithas heddiw, a’r gred yn y rôl y gall busnesau mawr ei chwarae wrth geisio creu cynnydd a gwella pethau i ofalwyr yn y gweithle.
Mae Sainsbury's yn aelodau hirdymor o grŵp llywio Cyflogwyr i Ofalwyr, ac mae'r sefydliad yn falch o agwedd ei arweinwyr at gefnogi cydweithwyr sy'n ceisio cydbwyso gwaith gyda chyfrifoldebau gofalu. Mae'n un o'r ychydig gwmnïau FTSE100 sydd â pholisi penodol ar gyfer gofalwyr, sy’n cael ei adnabod fel Carers People Policy. Yn ôl staff, mae cael polisi ffurfiol wedi gwneud gwahaniaeth mawr wrth gael sgyrsiau gyda chydweithwyr eraill a'u rheolwyr llinell eu hunain ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael yn ystod amserau heriol, fel cymryd amser i ffwrdd i fynd i apwyntiadau, newid amserlenni i ffitio o gwmpas ymrwymiadau gofalu, neu wneud addasiadau i ffyrdd o weithio (er enghraifft, caniatáu ffonau symudol ar lawr y siop rhag ofn bod argyfwng)
Mae Sainsbury's yn ceisio creu diwylliant cadarnhaol yn y gwaith, ac yn annog pobl i feddwl am beth mae'n ei olygu i fod yn ofalwr trwy gymryd rhan mewn ymgyrchoedd fel ‘Wythnos Gofalwyr’ a ‘Diwrnod Hawliau Gofalwyr’. Mae'r sefydliad yn gweld hyn fel darparu cefnogaeth i gydweithwyr, ac i’r cyhoedd ehangach hefyd. Gyda mwy na 1,300 o archfarchnadoedd a siopau cyfleustra ar draws y wlad, mae’r sefydliad yn gallu ymestyn allan i gwsmeriaid, a helpu i ledaenu ymwybyddiaeth am sefydliadau cymunedol lleol.
Enghraifft: Aviva
Mae Aviva wedi cyflwyno polisi gofalwyr, ac wedi gwella ei absenoldeb oherwydd profedigaeth ar gyfer ei 16,000 o weithwyr yn y DU.
Mae'r polisi gofalwyr, a ddaeth i rym ar 2 Hydref 2017, yn galluogi gweithwyr amser llawn sydd â chyfrifoldebau gofalu, i gymryd hyd at 35 awr o wyliau â thâl fesul blwyddyn ar gyfer digwyddiadau wedi’u cynllunio, er enghraifft, i fynychu apwyntiadau yn yr ysbyty. Mae'r polisi yn caniatáu i ofalwyr sy'n gweithio amser llawn i gymryd hyd at 35 awr o wyliau â thâl hefyd fesul blwyddyn wyliau ar gyfer argyfyngau. Mae'r swm o wyliau â thâl sydd ar gael ar gyfer gweithwyr rhan-amser sy'n ofalwyr yn cael ei ddyrannu ar sail pro-rata.
Yn ogystal, mae'r polisi gofalwyr newydd yn ymestyn i drefniadau absenoldeb rhiant i ofalwyr, sy'n golygu y gall gweithwyr sydd ag ymrwymiadau gofalu ofyn am hyd at bedair wythnos o absenoldeb di-dâl y flwyddyn, yn amodol ar gap uchafswm o 18 wythnos. Bydd gofalwyr sy'n gweithio i Aviva yn gallu gofyn am gael newydd eu patrymau gwaith hefyd os oes angen, er enghraifft, symud i weithio oriau rhan-amser.
Gan ddefnyddio ein polisïau Gweithio Clyfar a Hyblyg mae gofalwyr wedi dod o hyd i atebion sy’n eu cefnogi nhw hefyd o’n hystod o bolisïau sy’n cynnwys amser i ffwrdd â thâl ar gyfer absenoldeb brys/tosturiol yn ogystal ag amser i ffwrdd ar frys i ddibynyddion. Mae'r ddau drefniant hyn yn caniatáu hyd at 35 awr o amser â thâl y flwyddyn neu pro rata fel y bo'n briodol.
Yn olaf, rydym hefyd yn darparu absenoldeb di-dâl ar gyfer rhianta a gofal plant, yn amodol ar uchafswm o 18 wythnos, sef 21 wythnos ar gyfer plant anabl.
Ochr yn ochr â chyflwyno'r polisi gofalwyr newydd, mae Aviva wedi cynyddu ei absenoldeb oherwydd profedigaeth hefyd, o 35 awr i 70 awr.
Mae'r polisi newydd yn dilyn peilot a gynhaliwyd yn safle’r sefydliad ym Mryste ym mis Tachwedd 2016. Cymerodd 100 o weithwyr ran yn y fenter We Care, a ddarparodd rwydwaith cefnogi i weithwyr rannu eu profiadau, yn ogystal â'r heriau, o geisio cydbwyso ymrwymiadau gwaith a gofal. Ar ben hynny, casglodd Aviva adborth hefyd, fel rhan o’r peilot, ar y materion yr oedd ei ofalwyr sy'n gweithio yn eu hwynebu.
Mae’r polisi gofalwyr wedi cael ei lansio fel rhan o raglen les ehangach Aviva i weithwyr, sef Wellbeing@Aviva. Nod y rhaglen yw darparu ystod o gynhyrchion, polisïau a chyngor i weithwyr i helpu i gefnogi lles cyffredinol staff.
Enghraifft: Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Yr hyn rydym yn falch ohono: cefnogi gofalwyr yn y gwaith
Mae un o bob deg o'n gweithwyr wedi dweud wrthym fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Ym mis Tachwedd 2017, mynychodd prif weithredwr Carers UK, Heléna Herklots, lansiad ein polisi gofalwyr newydd. Nawr, mae hyn yn golygu bod ein gweithwyr yn gallu cymryd hyd at bum diwrnod o wyliau bob blwyddyn ar gyfer cyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â dau ddiwrnod o absenoldeb ar gyfer dibynyddion.
Mae'r polisi'n adeiladu ar lwyddiant ein pasbort gofalwyr, a sefydlwyd gyda chefnogaeth ein rhwydwaith gofalwyr. Mae'r rhwydwaith yn cynnal sesiynau rheolaidd hefyd, i bobl rannu eu profiadau o ofalu. Nid yw pobl yn sylweddoli bob amser eu bod nhw’n ofalwyr. Felly, fe fyddwn ni'n helpu ein rheolwyr i adnabod sefyllfaoedd lle gallai ein gweithwyr fod angen cymorth ychwanegol - a'u helpu nhw i gydbwyso eu cyfrifoldebau yn y gwaith a'r cartref, fel y gallant roi eu gorau yn y ddau.