Cefnogaeth gan gyfoedion
Rhwydweithiau gofalwyr - enghreifftiau yn y gweithle ac awgrymiadau
Mae enghreifftiau o rwydweithiau pendant (o fewn CiO) yn cynnwys:
BT
Yn dilyn cefnogaeth hirsefydlog i ofalwyr o fewn y cwmni, lansiwyd y rhwydwaith gofalwyr yn ffurfiol yn 2009. Mae'n cael ei redeg gan weithwyr, gyda chefnogaeth gan y tîm Adnoddau Dynol ac ar hyn o bryd, mae ganddo oddeutu 500 o aelodau. Mae gan y rhwydwaith fodel hyblyg, ac mae'n darparu 'hunangymorth' ymarferol i ofalwyr yn y gweithlu, gan gynnwys gwybodaeth ar y wefan Adnoddau Dynol a thrwy SharePoint (pecyn meddalwedd) sy'n galluogi gofalwyr i gofrestru ar y wefan a rhannu gwybodaeth, gofyn cwestiynau, postio cyhoeddiadau a chyfeirio ei gilydd at ffynonellau cefnogaeth mewnol ac allanol. Mae'r rhwydwaith wedi rhedeg 'galwadau gwybodaeth' hefyd ar faterion fel dementia, a 'galwadau sgwrsio' i rannu profiadau o ofalu. Mae'r rhain wedi denu diddordeb mawr, ac maen nhw wedi trafod pynciau fel dementia, asesiadau gofal, anghenion arbennig a phynciau eraill a nodwyd gan ofalwyr. Maen nhw fel arfer wedi cynnwys sesiynau awr o hyd yn ystod amser cinio, ac maen nhw wedi bod yn agored i'r holl staff i ddeialu mewn iddynt.
Centrica
Sefydlwyd y rhwydwaith ym mis Ionawr 2005 gan ofalwyr yn y cwmni, fel ffynhonnell o gefnogaeth a chyngor ynghylch pob agwedd ar gyfuno gofalu a gweithio. Bellach, mae gan y cwmni tua 1,000 o aelodau, ac mae'n darparu ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am ofalwyr, yn ogystal â bwrdd trafod ar-lein, lle gellir rhannu profiadau i ddarparu cefnogaeth a chyngor i'r ddwy ochr. Mae'r rhwydwaith yn galluogi'r cwmni i geisio barn gofalwyr hefyd, sy'n helpu i ymgorffori anghenion gofalwyr yn ymddygiadau a pholisïau'r cwmni. Mae’r cwmni’n credu bod llwyddiant a chynaliadwyedd y rhwydwaith yn ganlyniad i’r ffaith ei fod wedi cael ei arwain gan weithwyr, a’i fod wedi cael ei noddi ar lefel uwch, gan gynnwys, er enghraifft, gan Reolwr Gyfarwyddwr Nwy Prydain.
Heddlu Metropolitanaidd
The Carers Support Network has evolved over many years, originally from the Disabled Staff Association (DSA). The Carers Support Network (known as the Carers Support Group) is affiliated to the Disabled Staff Association which has numerous other Staff Support Associations (SSA)/Networks). All SSAs are run by MPS employees. There is an intranet site with information of all the Networks the MPS has to support staff and regular blogs from members of staff explaining their lived experiences. The Carers Support Network has a dedicated separate email account. its activities have included regular DSA email information, holding online listening group meetings and occasionally organising a specific Carers Awareness Day. Face to face contact has normally taken the form of a one-hour meeting followed by an informal drop in session (however, due to COVID this has ceased and been replaced by online team meetings). There are opportunities for staff to receive advice regarding their caring responsibilities. We continue as a network to find ways to continue to support staff.
KPMG
Sefydlwyd rhwydwaith KPMG yn 2009, ac mae'n darparu ystod eang o wybodaeth a chefnogaeth i weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu. Un her allweddol a wynebodd y rhwydwaith yn ei flynyddoedd cynnar oedd bod ei aelodaeth yn cynnwys staff cymorth yn bennaf; nid oedd gweithwyr lefel uwch yn adnabod eu hunain fel gofalwyr nac yn dod ymlaen am gefnogaeth. Mae'r rhwydwaith wedi bod yn awyddus i fynd i'r afael â hyn ac i herio unrhyw ganfyddiadau bod gofalu yn cyfyngu ar yrfaoedd pobl. Un ffordd allweddol y mae wedi mynd i'r afael â hyn yw ceisio cael cefnogaeth weladwy ar lefel uwch i'r rhwydwaith, a chydnabod bod gofalu yn fater pwysig sy'n effeithio ar y gweithlu. Mae’r rhwydwaith wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau hyrwyddwyr hŷn (ar lefel partner) yn y cwmni dros y blynyddoedd.
PwC
Roedd gan PwC lawer o rwydweithiau staff ar waith pan sefydlwyd ei rwydwaith gofalwyr yn 2009. Mae wedi cael cefnogaeth dda gan dîm amrywiaeth yr adran Adnoddau Dynol ac mae wedi elwa hefyd o noddwr o’r Bwrdd Gweithredol. Mae'r gweithgareddau wedi cynnwys sgyrsiau gan sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer’s a Mind, cyhoeddi taflen “Do you care for someone who matters? You matter too”, sy'n cynnwys gwybodaeth am y gefnogaeth mae'n ei ddarparu, ac yn fwy diweddar, gweithio gyda rhwydweithiau eraill yn PwC i hyrwyddo a mynd i'r afael â materion o ddiddordeb cyffredin. Yn ddiweddar, mae'r rhwydwaith wedi dod at ei gilydd gyda’r rhwydwaith rhieni o dan rwydwaith SPACE newydd (Cefnogi Rhieni, Gofalwyr a Phawb) i helpu i rannu dysgu a chynyddu gwelededd a nifer y gefnogaeth. Mae SPACE yn cynnig arweiniad a chymorth i staff, (gan gynnwys, er enghraifft, pecyn i ofalwyr newydd) a ffordd i gysylltu ag eraill mewn sefyllfa debyg (e.e. gofalwr i ofalwr).
Enghreifftiau eraill o rwydwaith aelodau CiO:
Allen & Overy
Rhwydwaith Carers@A&O: Rydym yn sylweddoli bod ceisio cydbwyso gwaith gyda chyfrifoldebau gofalu yn gallu bod yn heriol, ac rydym wedi creu safle mewnrwyd sy'n darparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr yn Allen & Overy. Rydym yn cynnal seminarau rheolaidd hefyd yn ystod amser cinio i staff sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Age UK
Age UK states that it fully supports its Employee Carers Network, which is run by carers with support from P&P (People & Performance). The network provides practical peer to peer support and information while working to raise awareness of the support available and promote carer friendly culture and practice within Age UK. ‘Our employee carers hold regular meetings and workshops on relevant topics to support carers and where appropriate can signpost carers to Age UK’s own factsheets and expertise available from Information and Advice. Further information is circulated to group members via the loop. Our Employee Carer Network is a first point of contact for proposed activities and policy and guidance consultation’.
Bank of England
Lansiwyd y rhwydwaith gofalwyr yn ystod Wythnos Gofalwyr 2015. Mae'n helpu i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i weithwyr yn y Banc sydd mewn rôl ofalu neu'r rheiny sy'n dymuno cael gwybod mwy am y maes penodol hwn. Prif amcanion y rhwydwaith yw: Hyrwyddo ac annog ymwybyddiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â gofalwyr; sianelu sylwadau ar effeithiolrwydd polisïau sy'n gysylltiedig â'r staff hynny sydd mewn rôl ofalu, yn ogystal â'u rôl yn y Banc; a darparu fforwm lle gall staff y Banc fynegi eu barn a chael cefnogaeth ar faterion sy'n ymwneud â gofalwyr. Mae Grŵp Llywio'r rhwydwaith yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod yr hyn y gall ei wneud, o ran gwybodaeth, gweithgareddau a digwyddiadau, i helpu i fodloni'r nodau hyn a chefnogi staff.
Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth a Gogledd Orllewin Llundain
Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth a Gogledd Orllewin Llundain (CNWL) Mae Rhwydwaith Gofalwyr yn y Gwaith (CAW) yn cael ei redeg gan staff sy'n ofalwyr eu hunain. Mae CNWL yn cydnabod bod nifer fawr o'i staff yn ofalwyr yn eu bywydau personol. Mae CAW wedi casglu’r holl bolisïau AD perthnasol ynghyd mewn un lle, dan ymbarél Llyfryn Gofalwyr sefydliadol newydd, gan ddosbarthu hwn i reolwyr a staff. Mae CAW yn cynnig gwybodaeth gefnogol megis cyfeirio at fforymau cymorth ar-lein allanol, a chynllun ‘hyrwyddwyr’ lleol. Rydym yn trefnu sesiynau addysg sy'n benodol i ddiagnosis gan gynnwys Llywio Polisïau AD ar gyfer staff, gofalwyr a rheolwyr sy'n cael eu rhedeg gan ein harbenigwyr a'n gofalwyr ein hunain. Rydym yn hyrwyddo'r Rhwydwaith ar draws yr Ymddiriedolaeth gan wneud yn siŵr bod yna ymwybyddiaeth a chefnogaeth i reolwyr a staff fel ei gilydd.
Network Rail
Mae'r Rhwydwaith Gofalwyr yn darparu cymorth ac arweiniad i ofalwyr ar draws y busnes, gan gynnwys, er enghraifft, cynorthwyo i baratoi Canllaw Profedigaeth Network Rail ar gyfer Rheolwyr, sydd hefyd wedi'i seilio ar ganllawiau arfer gorau ACAS. 'Gall rheolwyr llinell helpu i gefnogi gweithwyr sydd wedi profi profedigaeth trwy gyfrwng dealltwriaeth, hyblygrwydd a thosturi. Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i helpu rheolwyr llinell i gefnogi ein gweithwyr trwy brofedigaeth. Mae'n seiliedig ar nodyn cyfarwyddyd arfer gorau ACAS, ac mae wedi cael ei baratoi gan ein Rhwydwaith Gweithwyr i Ofalwyr. Mae sefydliadau eraill sy'n gallu cynnig cefnogaeth yn cynnwys rhaglen gymorth i weithwyr Network Rail a gwahanol elusennau allanol - mae manylion cyswllt yn yr atodiad. '
Transport for London
Yn ôl James Mummery, cadeirydd Grŵp Rhwydwaith Staff TfL: 'Mae ein Grŵp Rhwydwaith Staff i Ofalwyr yn darparu fforwm i weithwyr gyfarfod â gofalwyr eraill yn y cwmni, ac yn rhoi cyfle iddynt siarad â'i gilydd, cael cefnogaeth a rhannu cyngor. Gyda llawer o ofalwyr yn teimlo ar eu pen eu hunain, rydw i wedi darganfod bod y grŵp yn cael effaith enfawr ar y rheiny sy'n rhan ohono, oherwydd eu bod yn cael y cyfle i gwrdd â phobl eraill sy'n deall beth maen nhw’n mynd drwyddo.
Mae'n gwneud iddyn nhw deimlo'n llai unig. Mae'r grŵp yn rhoi'r cyfle hefyd, i staff ddarganfod sut y gall TfL eu cefnogi. Drwy godi ymwybyddiaeth o bolisïau'r sefydliad, gall gofalwyr fanteisio ar bethau fel gweithio’n hyblyg ac absenoldeb arbennig ar gyfer argyfyngau. Dyma hefyd, pam yr ydym yn croesawu rheolwyr llinell i'r grŵp. Mae llawer ohonynt yn awyddus i ddarganfod sut y gallant gefnogi aelodau eu tîm gyda chyfrifoldebau gofalu. Maen nhw’n sylweddoli, os bydd y gweithiwr dan bwysau neu dim yn gallu cydbwyso’r hyn sydd yn aml, yn ymddangos fel dwy swydd amser llawn, yna ni fyddant yn perfformio'n dda iawn. Nid yw o fudd i'r sefydliad neu'r gofalwr i anwybyddu'r mater, a dyna pam y gall cynnig hyblygrwydd wneud gwahaniaeth mawr '.